Aurwen MoraOWEN(Davies gynt) Mora 94 oed (cyn nyrs ardal a nyrs frenhines). Yn gynt o Lanbedr Pont Steffan a chyn hynny Port Talbot a Heol Salem, Cwmafan, hunodd yn dawel dan ofal tyner cartref gofal Plas y Dderwen, Caerfyrddin ar Mai 4, 2015; weddw I R Davies (cyn prif athro Ysgol Gyfun Glanafan, Port Talbot) ac yn ddiweddar O G Owen (cyn rheolwr Banc y Midland, Y Drenewydd); annwyl fam Ann, John a Gwyn; mamgu addfwyn Georgia, Taliesin, Owain a Branwen; a hen famgu gariadus Lauren, Madison a Mia. Gwasanaeth angladd i deulu a ffrindiau yn amlosgfa Margam ar Mai 18 am 1.30 o'r gloch. Dim blodau, yn ol ei ddymuniad, cyfraniadau er cof Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Adrian Oliver Trefnwr Angladdau, 51 Cefn Glas Rd, Penybont, CF31 4PJ.
Keep me informed of updates